Timau

Datblygwyd y wefan hon gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a Chymunedau am Waith a Mwy, sydd ill dau yn chwarae rhan weithredol wrth gefnogi pobl ifanc.

Gweler isod am ragor o wybodaeth am y ddau.

Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent:

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i bobl ifanc 11-25 oed.

Mae prosiectau a chyfleoedd amrywiol ar gael o fewn cymunedau ac ysgolion ar draws Blaenau Gwent i bobl ifanc gael mynediad iddynt ac mae gennym dîm mawr o weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr yma i helpu.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac i weld beth sydd ar gael, ewch i dudalen Facebook a chyfrifon Twitter ac Instagram Gwasanaeth Ieuenctid BG, neu mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol yn Youth.Service@Blaenau-Gwent.gov.uk

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gorfforaethol – Trosolwg o’r Gwasanaeth Ieuenctid | Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)

(https://linktr.ee/bgyouthservice)

Cymunedau am Waith a Mwy

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gyflogaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn wasanaeth cynghori ar gyflogaeth yn y gymuned ym Mlaenau Gwent sy’n gweithio i gynyddu cyflogadwyedd unigolion sy’n 16 oed a hŷn ac nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.

Trwy gymorth un i un, gall Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu i gael hyfforddiant neu ddysgu sgiliau newydd, neu eich helpu i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

Mae mentoriaid Cymunedau am Waith yn gallu cwrdd â chi yn eich ardal leol o fewn Blaenau Gwent a’ch cefnogi ar eich taith i ddod o hyd i’r swydd rydych chi ei heisiau.

Gwefan yn cael ei hadeiladu