Cymorth a chyngor
Gobeithiwn fod yr wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol i chi hyd yn hyn. Os nad ydych wedi dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, mae croeso i chi gysylltu â ni neu archwilio rhai o’r gwefannau eraill a awgrymir a’r cwestiynau cyffredin:
Diogelu
Cwestiynau cyffredin
Ni allaf fforddio fy nghostau teithio wythnosol, a oes cymorth ar gael?
Oes, oeddech chi'n gwybod y gall pobl ifanc 16-21 oed arbed 30% ar eu costau teithio? Ewch i Fy Ngherdyn Teithio i gael rhagor o wybodaeth a gweld sut i wneud cais.
A fydd dechrau addysg neu hyfforddiant yn effeithio ar fy mudd-daliadau i neu fudd-daliadau fy rhieni os byddaf yn dal i fyw gartref?
Bydd rhai cyrsiau addysgol yn effeithio ar fudd-daliadau, yn enwedig cyrsiau addysg amser llawn. Mae’n well siarad â chyflenwr eich cwrs i gael gwybod. Fodd bynnag, mae darparwyr cyflogaeth a hyfforddiant ar y wefan hon na fyddant yn effeithio ar eich budd-daliadau os byddwch yn cyrchu eu cymorth.
Pa mor hir yw’r cyrsiau hyfforddi?
Mae nifer o gyrsiau hyfforddi a chymwysterau y gallwch eu hennill gyda nifer o ddarparwyr. Mae’n well gwirio pa ddarparwr/darparwyr sy’n gweddu orau i’r llwybr rydych chi wedi’i ddewis orau trwy chwilio ar dudalen y cyfeiriadur.
Rwy’n ansicr ynghylch fy opsiynau neu beth rwyf am ei wneud.
Os mai dyma’r achos, Gyrfa Cymru ddylai fod yn fan cyswllt cyntaf i chi, gan y gall roi gwybod i chi beth yw’ch opsiynau a darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ganddynt hwy a darparwyr addysg / hyfforddiant / cyflogaeth eraill yn ardal Blaenau Gwent. Mae rhai darparwyr cymorth cyflogaeth hyd yn oed yn cynnal sesiynau blasu, fel profiadau gyrru cerbyd nwyddau trwm / lori godi / peiriant tyrchu 360 a hyd yn oed sesiynau canolfan alwadau.
Rwy’n gwybod pa swydd rydw i eisiau ei gwneud, ond mae angen hyfforddiant / tystysgrifau / cymwysterau arnaf i symud ymlaen i gyflogaeth.
Mae yna ddarparwyr cyflogaeth / hyfforddiant a fydd yn eich helpu i gael mynediad at yr hyfforddiant rydych ei eisiau a’ch cefnogi i gyflawni eich dyheadau cyflogaeth.
Mae angen i mi gwblhau cwrs hyfforddi penodol i gael y swydd rwyf ei heisiau ond ni allaf fforddio talu’r ffi.
Mae cyllid ar gael trwy nifer o ddarparwyr a all ddod o hyd i’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch fel na fydd unrhyw gost i chi os ydych yn gymwys.
Rwy’n dioddef o ddiffyg hyder ac nid wyf yn meddwl fy mod yn barod i ddechrau cyflogaeth ar hyn o bryd.
Peidiwch â phoeni, mae digon o help gan ddarparwyr a fydd yn gweithio gyda chi i feithrin eich hyder nes y byddwch yn teimlo eich bod yn barod i gymryd y cam nesaf.
Pa mor hir fydd yn rhaid i mi gofrestru gyda darparwr?
Mae llawer o’r rhaglenni cymorth yn wirfoddol, felly nid oes ymrwymiad arnoch. Gallwch roi’r gorau i ymgysylltu â darparwr pryd bynnag y dymunwch.
A allaf gael cymorth gan fwy nag un darparwr?
Gallwch, yn dibynnu ar sut mae’r darparwr yn cael ei ariannu ac yn dibynnu ar eich anghenion. Mewn rhai amgylchiadau, bydd mwy nag un darparwr yn gallu gweithio a’ch cefnogi ar yr un pryd, er ei bod yn bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r mentor/cynghorydd gan bwy arall rydych yn cael cymorth.
Beth os byddaf yn dewis darparwr nad yw’n gweddu i’m hanghenion na’m dyheadau?
Peidiwch â phoeni, mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr wybodaeth dda am raglenni cymorth eraill yn yr ardal a byddant yn eich cynghori ar hyn. Gallant hefyd ofyn am eich caniatâd i’ch cyfeirio at y rhaglen gymorth fwyaf priodol. Peidiwch ag anghofio, mae’r holl raglenni a chymorth hyn yn wirfoddol.