Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu cyngor cyflogaeth arbenigol, mentora a chyfleoedd hyfforddi i helpu cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth gynaliadwy a chael cyflogaeth o’r fath.
Mae ein mentoriaid ymroddedig yn gallu cynnig cymorth un i un sydd wedi’i deilwra o amgylch anghenion unigol a gosodir cynllun datblygu personol cytunedig gyda’r unigolyn. Mae’r cymorth a ddarparwn yn seiliedig ar yr unigolyn yn dod o hyd i gyflogaeth addas drwy wella sgiliau, darparu cyfleoedd hyfforddi, a chael gwared ar rwystrau a allai ei atal rhag gweithio neu ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Er mwyn gwneud y mwyaf o’n harlwy a darparu’r cymorth cywir, rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner lleol i sicrhau’r math cywir o ymyrraeth a’r canlyniad gorau i’r unigolyn.