Mae ymyriad REACH Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili yn gweithio gyda phobl ifanc 8-17 oed sydd mewn perygl o ymddygiad troseddol, neu sy’n ymwneud ag ymddygiad troseddol.
Yn lleol, mae’r gwasanaeth yn dod â staff ynghyd o ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys yr awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd ac addysg. Trwy gydweithio a rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, nod y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yw helpu plant i wneud y dewisiadau bywyd cywir a lleihau troseddu gan blant.
Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid hefyd yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n cydnabod yr effaith andwyol y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chael ar bawb mewn cymuned – yn oedolion ac yn blant – a phwysigrwydd mynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath.
Rhan annatod o waith y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yw annog plant i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd trwy gydnabod y niwed a achosir i eraill a chynnig modd o unioni pethau.