Os ydych yn chwilio am lety fforddiadwy ym Mlaenau Gwent, yna bydd ein gwefan yn caniatáu i chi gofrestru ar gyfer tai sydd ar gael ar gyfer perchentyaeth cost isel neu i brynu’n rhannol yn ardal Blaenau Gwent.
Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am y gwahanol opsiynau tai sydd ar gael ym Mlaenau Gwent. Ein nod yw helpu pobl sy’n chwilio am gartref i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am yr opsiynau mwyaf addas sydd ar gael.
Mae Cartrefi Blaenau Gwent yn bartneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent a phartneriaid tai Cartrefi Cymunedol Tai Calon, Linc Cymru, Cartrefi Melin a Chymdeithas Tai Unedig Cymru.