Yn ogystal â bod yn ddarparwr addysg, rydym yn cefnogi pontio dysgwyr o Gyfnod Allweddol 4 (Blwyddyn 11 yn yr ysgol) i addysg bellach; caiff hwn ei deilwra i anghenion pob disgybl. Rydym yn cynnig grantiau ac LCA i ddysgwyr (rhai ohonynt yn dibynnu ar brawf modd). Mae hyn yn cynnwys tocynnau teithio ac arian cinio.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr gan unrhyw aelod o’r cyhoedd. Ystyrir pob un yn erbyn gofynion mynediad ac yn aml gellir ceisio cyrsiau amgen os nad yw ymgeiswyr yn gymwys. Rydym yn ymfalchïo mewn cymorth bugeiliol, academaidd a lles.
Darparwr addysg bellach
Prif ffrwd
Cyrsiau amser llawn a rhan-amser
Darpariaeth sgiliau byw’n annibynnol
Mae’r cyrsiau’n amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 galwedigaethol
UG a Safon Uwch